Yn lle torri swyddi, fe ddylai cyflogwyr “fod yn llenwi swyddi gwag” â sicrhau bod “digon o staff i wneud y gwaith, heb orfodi gweithwyr i weithio oriau hir di-dâl”, meddai undeb Unison.
Mae ffigyrau Cyngres yr Undebau Llafur yn dangos fod o bob pedwar o staff y sector cyhoeddus yn gweithio oriau ychwanegol heb gau eu talu.
Mae nifer yr oriau di-dâl werth bron i £9 biliwn y flwyddyn, meddai Dave Prentis, Ysgrifennydd Cyffredinol UNISON.
“Mae staff yn gwneud heb filoedd y flwyddyn drwy weithio’n rhad ac am ddim, ond maen nhw’n cael eu gwobrwyo gyda thoriadau gwario, rhewi cyflogau a thoriadau swyddi,” meddai.
Dywedodd bod staff y sector cyhoeddus yn gweithio mwy o “oriau gwaith di-dâl rheolaidd” na staff yn y sector preifat.
Mewn rhai achosion maen nhw’n “gweithio tuag 18 awr yr wythnos” tros ben eu horiau arferol ac mae hynny, meddai, yn arwain at staff isel eu hysbryd a mwy o salwch.