Mae cymdeithas sy’n anrhydeddu sefydlydd senedd gyntaf Cymru wedi ysgrifennu llythyr at y Cynulliad yn eu cyhuddo o’i anwybyddu.

Ar drothwy Dydd Gŵyl Dewi, galwodd Cymdeithas Owain Glyndŵr ar y Cynulliad i “anrhydeddu’r gŵr a fu’n brwydro i sicrhau gwell Cymru i bawb”.

Mae’r gymdeithas wedi ysgrifennu at Lywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, a rhoi copi o’r llythyr i’r aelodau eraill.

Yn y llythyr, mae’r Gymdeithas yn datgan eu “hanfodlonrwydd” ynglŷn â “diffyg cydnabyddiaeth y Cynulliad i Owain Glyndŵr”.

Roedd y Gymdeithas wedi gwneud apêl cyn hyn i gynnwys eitemau i goffáu Owain yn adeilad y Cynulliad wedi galw am enwi prif ystafell ddadlau’r Cynulliad ar ei ôl.

Awgrym arall oedd “cerflun neu ffenestr i’w goffáu”.

“Mae’n ffaith drist nad ydi Cynulliad Cymru wedi cydnabod cyfraniad unigryw Owain Glyndŵr i hanes ein cenedl,” meddai Lloyd James, Cadeirydd y Gymdeithas.

“Ar drothwy Gŵyl Dewi r’yn ni wedi penderfynu ymgyrchu i wneud yn iawn am y cam.”