Ifan Morgan Jones sy’n ymateb i’r si y bydd y Prif Weinidog yn galw etholiad cynnar…


Mae yna si ar led yn San Steffan y bydd Gordon Brown yn galw etholiad yn gynt na’r disgwyl, gyda rhai’n awgrymu y bydd yn mynd i weld y Frenhines yr wythnos nesa’.

Mai 6 yw’r dyddiad mwyaf tebygol ar gyfer Etholiad Cyffredinol o hyd – meddai’r rhai sy’n gwybod – ond mae rhai bellach yn awgrymu y gallai’r etholiad gael ei gynnal fis nesaf, ar 25 Mawrth.

Fe fydd y blaid Doriaidd yn cynnal eu cynhadledd wanwyn yn Brighton dros y penwythnos ac mae rhai, fel y blogiwr Guido Fawkes, wedi awgrymu y bydd y cyhoeddiad yn ymgais i ddwyn sylw oddi arnyn nhw.

Mae hefyd yn dweud ei fod wedi clywed bod tîm etholiadol y BBC wedi cael rhybudd na ddylen nhw ddiflannu dros y penwythnos.

Mae pôl piniwn gan MORI yn y Daily Telegraph heddiw’n awgrymu mai dim ond pum pwynt o fantais sydd gan y Torïaid dros Lafur bellach.

Roedd yna hefyd newyddion da i Gordon Brown heddiw, sef bod yr economi yng ngwledydd Prydain wedi gwella ychydig mwy na’r disgwyl yn y tri mis cyn y Nadolig. Y disgwyl ydi y byddan nhw’n gwaethygu ychydig eto ar ôl hyn.

Does gan Lafur ddim o’r un adnoddau â’r Toriaid er mwyn ymladd etholiad ac fe fyddai torri’r ymgyrch yn fyr yn ei gwneud hi’n haws iddyn nhw gystadlu.

Mae’r Toriaid wedi bod mewn trafferth eu hunain yn ddiweddar, gydag ansicrwydd ynglŷn â’u polisi i ddechrau torri ar unwaith ar wario cyhoeddus a thros eu bwriad i roi manteision treth i bobol briod.

Mae’n ymddangos bod Llafur yn credu bod ganddyn nhw rywfaint o gyfle – ar y rhaglen Dau o’r Bae heddiw, roedd cyn Brif Weinidog Cymru’n awgrymu y gallen nhw ennill bellach, yn wahanol i chwe mis yn ôl.

Un broblem i Gordon Brown – mi greodd lanast y tro diwetha’ pan oedd sïon am etholiad adeg cynhadledd Geidwadol. Efallai y byddai sinig yn awgrymu mai’r Ceidwadwyr sydd wedi dechrau’r stori eto er mwyn creu mwy o helynt.

Ond os ydi’r sïon yn wir fe allai Gordon Brown fynd i weld y Frenhines ddydd Llun.