Mae bron un o bob tair merch dan y camargraff y bydd prawf taeniad ceg y groth yn dangos arwyddion o ganser yr ofari, meddai pôl piniwn heddiw.

Dim ond 4% sy’n hyderus y gallan nhw adnabod symptomau’r afiechyd ac mae llawer yn credu ei fod yn llai cyffredin na chanser ceg y groth.

Mewn gwirionedd, mae 6,800 o ferched yn dioddef o ganser ofari pob blwyddyn ac mae 4,500 yn marw o’r afiechyd – pedair gwaith yn fwy nag sy’n marw o ganser ceg y groth.

Yn ôl y pôl piniwn o fwy na 1,000 o ferched, roedd 66% wedi cael gwybodaeth am ganser ceg y groth o’i gymharu â dim ond 33% am ganser yr ofari.

O’r merched hynny sydd wedi cael canser yr ofari, doedd 56% ohonyn nhw ddim yn gwybod dim am yr afiechyd cyn hynny.

Os yw’r canser yn cael ei ddarganfod yn gynnar, gall hyd at 90% o gleifion wella ohono ond, unwaith y bydd yn lledu, mae’r afiechyd yn lladd 85% o ddioddefwyr.

Dryswch meddai Gaby Roslin

“Does dim digon o ferched yn gwybod am ganser yr ofari ac mae cryn ddryswch rhwng y math hwn o ganser a chanser ceg y groth,” meddai’r gyflwynwraig deledu Gaby Roslin sy’n cefnogi ymgyrch newydd o’r enw ‘Unzipped’ gan elusen Target Ovarian Cancer.

Un o’r problemau, meddai’r elusen, yw bod pethau cyffredin fel teimlo’n llawn a phoen yn y stumog ymhlith yr arwyddion.

Meddai Prif Weithredwr Target Ovarian Cancer, Annwen Jones: “Does dim prawf eto i sgrinio canser yr ofari – ond mae ymchwil yn dangos bod y symptomau mwyaf cyffredin yn bethau pob dydd.”.

Llun: Gaby Roslin – yn cefnogi’r ymgyrch