Fe fydd y BBC yn haneru ei gwasanaethau ar y We, yn cau dwy orsaf radio a gwario llai ar fewnforio rhaglenni, yn ôl adroddiadau papur newydd.

Yn ôl y Times heddiw fe fydd Mark Thompson, cyfarwyddwr y Gorfforaeth, yn dweud ei bod wedi tyfu’n rhy fawr a bod angen rhoi mwy o gyfle i gwmnïau masnachol sy’n cystadlu yn ei herbyn.

Mae’r Times yn honni y bydd y cynllun yn cael ei gyhoeddi fis nesaf, gan dorri ar wasanaethau er mwyn gwario arian ar wella safonau.

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC mai “dyfalu” oedd y papur ac na fydden nhw’n cynnig sylw.

‘Tro ar fyd’

Pe bai’n wir fe fyddai’n dro ar fyd i’r Gorfforaeth sydd wedi ehangu’r gyson dros y blynyddoedd diwethaf.

Y ddau wasanaeth radio a fydd yn dod i ben, meddai’r Times, yw6 Music a’r Asian Network ac mae’n dweud y bydd Mark Thompson hefyd yn cyhoeddi y bydd BBC Switch a Blast!, sy’n targedu cynulleidfa iau, yn dod i ben.

Dylai’r toriadau arbed £600 miliwn er mwyn buddsoddi mewn rhaglenni gwell.

Mae’r papur hefyd yn dyfynnu ffynhonnell o fewn Ymddiriedolaeth y BBC sy’n dweud na fydd y Gorfforaeth yn gwario cymaint ar raglenni o dramor fel Mad Men a Heroes.