Mae hyfforddwr Cymru wedi herio ffawd unwaith eto trwy ymosod ar un o brif chwaraewyr Ffrainc, cyn y gêm faw heno.
Yn ôl Warren Gatland, mae amheuaeth am ffitrwydd a chyflymder canolwr mawr y Ffrancod, Mathieu Bastareaud, er mai ef oedd un o lwyddiannau mawr y tîm yn y ddwy gêm gynta’.
Mae datganiadau Gatland cyn gemau wedi bod yn drychinebus hyd yn hyn – er enghraifft trwy ddweud bod y Cymry’n casáu’r Gwyddelod cyn gêm Iwerddon y llynedd. Fe gollon nhw’r gêm a’r bencampwriaeth.
Yn ôl hyfforddwr Cymru, fe fydd angen chwarae’n gyflym a symud y canolwr mawr o gwmpas y cae a cheisio blino’r Ffrancod i gyd erbyn munudau ola’r gêm.
‘Amddiffyn’
Fe bwysleisiodd hyfforddwr cicio’r Cymry, Neil Jenkins, y bydd rhaid i’r tîm amddiffyn yn dda yn erbyn Ffrainc ac roedden nhw wedi bod yn gweithio’n galed ar hynny yn ystod yr wythnos.
Roedden nhw hefyd wedi bod yn gweithio ar wendidau eraill, gan gynnwys problemau yn y llinellau.
Ond, yn ôl rheolwr y tîm, Alan Phillips, yr ymarfer yn Stadiwm y Mileniwm neithiwr oedd y gorau yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Ac fe dynnodd yntau sylw at ganolwr mawr a chry’ … ei enw, meddai, yw Jamie Roberts.
Llun: Mathieuy Bastareaud (llun o’i safle Facebook)