Mae’n ymddangos bod trafodaeth gyhoeddus ar gynlluniau iechyd Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi methu.

Doedd yna ddim cytundeb ar ddiwedd y cyfarfod saith awr rhwng yr Arlywydd a’i wrthwynebwyr ymhlith y Gweriniaethwyr.

Fe gafodd y drafodaeth ei dangos yn fyw ar y teledu er mwyn ceisio dod i gytundeb ynglŷn â diwygiadau iechyd Barack Obama.

Dywedodd Barack Obama, sydd dan bwysau i ganolbwyntio ar ddiweithdra yn y wlad, y byddai diwygio’r gwasanaeth iechyd yn hwb i’r economi yno.

Mae’n awyddus i sicrhau bod y mesur iechyd yn cael ei dderbyn cyn yr etholiadau seneddol i Dŷ’r Cynrychiolwyr a Senedd yr Unol Daleithiau ym mis Tachwedd – bryd hynny mae’r blaid sydd mewn pŵer yn y Tŷ Gwyn fel arfer yn colli seddi.

Perswadio

Yn ogystal â’r Gweriniaethwyr mae Barack Obama hefyd yn ceisio sicrhau cefnogaeth rhai Democratiaid, sy’n pryderu y byddan nhw’n colli eu seddi yn yr etholiad ps byddan nhw’n pleidleisio o blaid y cynllun.I

Ym marn Barack Obama roedd y cyfarfod yn gyfle i ennill y ddadl a sicrhau cefnogaeth gyhoeddus i’r cynllun, a drwy wneud hynny sicrhau bod ei blaid ei hun, sydd â mwyafrif yn y gyngres, yn pleidleisio o’i blaid.

Cadarnhawyd pryderon y Democratiaid ynglŷn ag amhoblogrwydd y cynllun pan gipiodd y Gweriniaethwyr hen sedd seneddol y diweddar Edward Kennedy yn Massachusetts – roedd hynny’n torri eu mwyafrif yn y Gyngres o dan y lefel i fynnu cael ei ffordd.

Pe na bai’n llwyddo i sicrhau cytundeb fe allai Barack Obama gyfaddawdu ac ail lunio’r mesur neu fe allai geisio ei orfodi drwy’r senedd heb gytundeb y Gweriniaethwyr.


‘Synnwyr cyffredin’

Byddai’r ddeddfwriaeth newydd yn cynnig yswiriant iechyd i 30 miliwn o bobol yr Unol Daleithiau nad ydyn nhw’n gallu ei fforddio fel arall.

Mae’r polau piniwn yn dangos bod pobol y wlad yn pryderu ynglŷn â chostau meddygol uchel. Ond maen nhw hefyd yn pryderu nad dyma’r amser cywir, ynghanol dirwasgiad, i wario triliwn o ddoleri dros 10 mlynedd ar y cynllun iechyd newydd.

‘Brys’ meddai Obama

“Mae pawb yn gwybod bod yna frys,” meddai Barack Obama. “Mae gwleidyddiaeth wedi bod yn drech na synnwyr cyffredin.

“Mae pawb fan hyn yn gwybod bod pobol yn anobeithio pan fyddan nhw’n sâl. Dw i’n meddwl bod pawb fan hyn yn cydymdeimlo gyda hynny ac eisiau sustem sy’n gweithio i bawb yn America.

“Dw i ddim yn gwybod a fydd hi’n bosib dod i gytundeb. Os na fydd, o leiaf fe fyddwn ni wedi egluro i bobol America beth yw craidd y ddadl.”