Mae Prif Weinidog yr Alban yn dibynnu ar yr Etholiad Cyffredinol er mwyn ennill refferendwm annibyniaeth.

Wrth gyhoeddi drafft o fesur ar gyfer refferendwm, fe wnaeth Alex Salmond yn glir ei fod yn disgwyl y bydd yr awyrgylch gwleidyddol yn newid ar ôl yr etholiad.

Ond, ar hyn o bryd, mae’r tair plaid fawr arall yn yr Alban yn gwrthwynebu bwriad yr SNP i geisio cael y refferendwm cyn diwedd yr haf.

Fel mae’n digwydd, fe fydd cyfnod o naw wythnos o ymgynghori ar ddogfen y Llywodraeth, sy’n golygu na fydd y senedd yn yr Alban yn pleidleisio arni tan ar ôl yr etholiad Prydeinig.

Mae’r drafft yn cynnig refferendwm gyda dau gwestiwn – un yn holi am ragor o rym i Senedd yr Alban, heb fynd cyn belled ag annibyniaeth, a’r ail yn sôn am rymoedd a fyddai’n arwain at hynny.

Fe wnaeth Alex Salmond a’r SNP yn glir y byddan nhw’n ymgyrchu tros ‘Ie ac Ie’, ond mae’r pleidiau eraill yn dal i wrthwynebu’n blwmp ac yn blaen.

Gwrthod – barn y pleidiau eraill

Dyma farn y gwrthbleidiau:

• Llafur – “dyw hwn yn ddim ond prosiect balchder i Alex Salmond”.

• Ceidwadwyr – “fe ddylen nhw roi’r gorau i wastraffu arian cyhoeddus”.

• Democratiaid Rhyddfrydol – “maen nhw’n rhoi cenedlaetholdeb cul o flaen buddiannau pobol yr Alban”.

Fe ymunodd Prif Weinidog Prydain yn y beirniadu hefyd gan gyhuddo’r SNP o fod “ag obsesiwn” am newid cyfansoddiadol.

Nid dyna oedd yn poeni pobol, meddai Gordon Brown, ond swyddi a gwasanaethau.

Llun: Alex Salmond