Mae o leiaf 21 o bobol wedi marw mewn tân mewn ffatri siwmperi ger prifddinas Bangladesh, Dhaka, dros nos.

Bu farw’r cyfan, gan gynnwys 14 o ferched, ar ôl cyrraedd yr ysbyty neu ar eu ffordd yno.

Roedd pob un yn diodde’ oherwydd mwg cyn cael eu tynnu o adfeilion Ffatri Swimperi Garib & Garib yn Gazipur, sydd tua 20 milltir i’r gogledd o’r brifddinas.

Dywedodd y gwasanaeth tân eu bod nhw wedi rheoli’r fflamau ac nad oedden nhw’n disgwyl dod o hyd i ragor o gyrff.

Mae gan Bangladesh tua 4,000 o ffatrïoedd dillad ond dyw’r rhan fwyaf ddim yn saff, yn ôl grwpiau hawliau gweithwyr. Mae tua dwy filiwn o weithwyr yn y sector, y rhan fwyaf yn ferched.

Mae’r diwydiant yn gwneud tua $10 biliwn y flwyddyn wrth werthu’r dillad dramor –Ewrop a’r Unol Daleithiau yw’r brif farchnad.