Fe gafodd o leia’ 17 o bobol eu lladd gan ffrwydradau a gynnau ym mhrifddinas Afghanistan.

Mae gwrthryfelwyr y Taliban wedi cydnabod mai nhw oedd yn gyfrifol a’u bod wedi ymosod ar ddau westy yn Kabul, lle’r oedd tramorwyr yn byw.

Yn ôl gwahanol adroddiadau, fe ddechreuodd yr ymosodiad gyda saethu ac yna fe ffrwydrodd bom car y tu allan i un o’r gwestai.

Roedd y Taliban yn dweud mai pump o ddynion oedd yn gyfrifol, ac mae heddlu Afghanistan wedi cydnabod bod o leia’ dri yn rhan o’r ymosodiad.

Plismyn ac Indiaid

Maen nhw hefyd wedi cadarnhau mai plismyn oedd tri o’r bobol a laddwyd ac mai pobol o India oedd y rhan fwya’ o’r gweddill. Mae o leia’ 32 o bobol wedi eu hanafu.

Mae’n ymddangos bod y saethu wedi parhau am tua thair awr a bod plismyn wedi bod yn ceisio dal un o’r gwrthryfelwyr oedd yn cuddio mewn seler.

Dyma’r ymosodiad mawr cynta’ yng nghanol Kabul ers mwy na mis a’r cynta’ ers i luoedd NATO ddechrau ar eu hymgyrch fawr yn erbyn y Taliban yn nhalaith Helmand.

Llun: Cario corff wedi’r ffrwydradau yn Kabul (AP Photo)