Mae cyflogwyr yn teimlo’n fwy positif am eu sefyllfa ariannol y flwyddyn hon – gyda llawer yn credu y byddan nhw’n treulio llai o amser yn torri costau nag yn 2009, meddai ymchwil newydd.

Mae arolwg o 800 o gyflogwyr wedi dangos fod llawer yn rhoi blaenoriaeth ar geisio sicrhau fod y pecynnau tâl y maen nhw’n eu cynnig eleni yn rhai cystadleuol yn y farchnad waith.

Mae hynny’n cael ei ystyried yr un mor bwysig â chadw llygad ar gostau, meddai’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu.

Fe ddywedodd dros hanner y cyflogwyr a gafodd eu holi eu bod yn disgwyl talu mwy mewn cyflogau’r flwyddyn hon – dim ond 15% oedd yn rhagweld rhagor o doriadau.

Ond roedd cyflogwyr yn y sector cyhoeddus yn fwy tebygol o ragweld toriadau cyflog o’i gymharu â chwmnïau preifat.

“Mae cyflogwyr yn fwy hyderus am y flwyddyn economaidd hon…” meddai Charles Cotton o’r Sefydliad.