Fe gyhoeddodd yr heddlu mai tad 19 oed oedd y dyn a gafodd ei ladd wrth sledio yn ardal Tredegar.
Fe gafodd Anthony James Farley o Bettws ei ladd ger Ystrad Deri toc wedi 4.00 brynhawn Sul, pan lithrodd darn o blastig yr oedd ef a dyn arall yn sledio arno i’r ffordd a tharo yn erbyn car.
Wnaeth y car ddim aros a chafodd y ddau ddyn eu darganfod gan aelod o’r cyhoedd. Mae’r heddlu wedi arestio dyn 34 oed o ardal Tredegar ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.
Bu farw Anthony Farley yn y fan a’r lle, ac fe aethpwyd â’i gyfaill, dyn 23 oed o Dredegar, i Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni.