Fe gafodd y Llywodraeth ei chondemnio am ddiffyg arweiniad a diffyg gwerth am arian tros gynllun mawr i helpu’r ardaloedd tlotaf.
Yn ôl Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad, mae angen newidiadau sylfaenol i’r cynllun Cymru’n Gyntaf sydd wedi gwario £214 miliwn yn ystod y deng mlynedd diwetha’.
Dyma’r pedwerydd adroddiad beirniadol am y cynllun, a oedd wedi’i greu i gefnogi cynlluniau cymdeithasol mewn 100 o’r ardaloedd mwya’ di-fraint.
Yn ôl y Pwyllgor, sy’n cynnwys aelodau o bob plaid, mae’r Llywodraeth wedi methu â gosod cyfeiriad digon clir ac wedi methu â dweud wrth awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill beth y maen nhw’n ei ddisgwyl.
Diffyg cynllunio
Fe gafodd y Llywodraeth eu cyhuddo o ddiffyg cynllunio a rheoli ac o fethu â rhoi digon o flaenoriaeth i’r cynllun.
Roedd yna bryder bod gormod o’r arian yn mynd ar staff, gyda’r peryg bod y cynllun yn troi’n rhaglen greu gwaith.
O ganlyniadmeddai’r pwyllgor, i’r problemau hyn i gyd, mae’r cynllun, meddai’r Pwyllgor, wedi arwain at ychydig o les lleol ond mae amheuon am ei werth mwy cyffredinol.
Mae’r Pwyllgor wedi gwneud pedwar prif argymhelliad:
• Bod angen i’r Llywodraeth ddangos sut y maen nhw am weithredu’r hyn a ddywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn adroddiad beirniadol y llynedd.
• Bod angen i’r Llywodraeth edrych ar bolisïau eraill a gweld sut y maen nhw’n cefnogi Cymunedau’n Gyntaf.
• Bod angen annog awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau cymdeithasol i gyfeirio arian o gynlluniau eraill i helpu’r gwaith.
• Bod angen monitro’r canlyniadau’n well i ddangos gwerth am arian.
Fe fydd Cadeirydd y Pwyllgor, Jonathan Morgan, yn galw am ddadl ar yr adroddiad ar lawr y Cynulliad.
Fe fyddai hynny’n gam eithriadol, meddai, ond roedd yn dangos pwysigrwydd y pwnc.
Llun: Jonathan Morgan, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon