Mae’r Dreigiau wedi cael hwb cyn wynebu Ulster nos Wener gyda’r chwaraewyr rhyngwladol, Luke Charteris a Danny Lydiate, yn dychwelyd i’r garfan.
Mae Will Harries hefyd yn ôl ar ôl chwarae i dîm saith bob ochr Cymru ym mhedwerydd cymal y gyfres ryngwladol yn Las Vegas.
Felly mae hyfforddwr y rhanbarth, Paul Turner, yn gallu galw ar fwyafrif y chwaraewyr oedd yn rhan o’r tîm a gurodd y Gweilch a’r Saracens yn ddiweddar.
“Roedd yn gêm yn erbyn y Saracens yn un dda, lle cwympodd popeth i’w le”, meddai Lydiate. “Roedd yr un peth yn wir am y gêm yn erbyn y Gweilch – roedd pawb yn mwynhau eu hunain.
“Fel arfer gyda deg munud yn weddill o’r gêm, mae pawb wedi blino ac yn edrych ar y cloc. Ond yn y gêmau hynny roedd pawb yn llawn egni.”
Mae’r chwaraewr ifanc yn cydnabod bod wynebu Ulster yn Ravenhill yn dasg anodd i unrhyw dîm.
“R’yn ni’n ymwybodol y bydd hi’n gêm anodd, ond r’yn ni’n anelu am le yn y Cwpan Heineken, felly mae’n bwysig sicrhau buddugoliaeth,” meddai Lydiate.
Carfan y Dreigiau
Cefnwyr- Martyn Thomas, Will Harries, Aled Brew, Matthew Watkins, Ashley Smith, Tom Riley, Rhodri Gomer Davies, Jason Tovey, James Arlidge, James Leadbeater, Wayne Evans
Blaenwyr- Hugh Gustafson, Ben Castle, Tom Willis, Steve Jones, Pat Palmer, Adam Jones, Rob Sidoli, Luke Charteris, Danny Lydiate, Lewis Evans, Grant Webb, James Harris, Gavin Thomas
Llun: Dan Lydiate