Mae bachwr ifanc y Scarlets, Ken Owens, yn dweud ei fod o’n falch iawn ar ôl cael ei alw i garfan Cymru am y tro cyntaf.
Cafodd ei ychwanegu at y garfan ar ôl anafiadau i Matthew Rees a Gareth Williams, sy’n golygu mai Huw Bennett oedd yr unig fachwr ffit oedd ar ôl.
Mae Owens wedi perfformio’n gyson iawn y tymor yma gyda nifer o’r farn y dylai fod wedi cael ei gynnwys yn y garfan wreiddiol.
‘Balch’
“Daeth yr alwad yr wythnos diwethaf i ymuno â sesiynau hyfforddi Cymru. Roedd yn brofiad gwych ac ro’n i’n hynod o falch o gael bod yn rhan ohono,” meddai Owens.
“Gan ei fod yn awyrgylch newydd i mi roedd ychydig o her i ddechrau; roedd yn rhaid dod i arfer â galwadau gwahanol ac ati ond roedd e’n brofiad gwych.”
Fe fydd Owens yn ôl gyda’r Scarlets yr wythnos yma wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y gêm yng Nghynghrair Magners yn erbyn Leinster yn Nulyn nos Sadwrn.
Fe fydd yn dychwelyd at garfan Cymru dydd Llun nesaf cyn i Gymru wynebu Ffrainc yn Stadiwm y Mileniwm ar 26 Chwefror.
‘Dangos ei ddawn’
“Mae’n holl bwysig fy mod i’n perfformio’n dda i’r Scarlets yn erbyn Leinster y penwythnos nesa’,” meddai.
“Rwy’ wedi mwynhau’r profiad o fod yn rhan o’r garfan ryngwladol ac rwy’ wedi llwyddo i ddatblygu’r tymor yma. Rwy’ wedi cael lot o amser ar y cae ac rwy’n dechrau’n gyson i’r rhanbarth,” ychwanegodd Ken Owens.
Llun (O wefan y Scarlets)