Mae Cymru allan o gystadleuaeth rygbi saith bob ochr yr Unol Daleithiau ar ôl colli yn erbyn Samoa yn rownd yr wyth olaf.

Ond dyma’r tro cynta’ iddyn nhw fynd cyn belled yn y gyfres bencampwriaethau y tymor yma. Roedd Cymru wedi curo’r Ariannin a Japan cyn colli yn erbyn Lloegr a gorffen yn ail yn eu grŵp.

Roedd tîm Paul John wedi dal eu tir yn erbyn Samoa tan hanner amser, gyda’r sgôr yn gyfartal ar 5-5 ar ôl cais gan Aaron Bramwell.

Ond fe aeth Samoa ar y blaen yn yr ail hanner gyda dau gais arall, cyn i Rhys Sellard sgorio cais hwyr i Gymru i’w gwneud hi yn 17-10.

Samoa aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth yn Las Vegas (dde) trwy guro Awstralia yn y rownd gyn derfynol a maeddu Seland Newydd yn y ffeinal.

Mae perfformiad Cymru yn yr Unol Daleithiau yn eu codi nhw i’r nawfed safle yn y byd ar ôl pedair rownd yn y gyfres gystadlaethau.