Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth wedi ymosodiad ciaidd ar ddyn canol oed yn Nhrecelyn, nos Sadwrn.

Roedd dyn 56 blwydd oed wedi ceisio ymyrryd ar ôl i fachgen ifanc sarhau staff siop Londis yn Nhreowen.

Fe wnaeth y dyn herio’r bachgen am ei ymddygiad ond wrth adael y siop ymosododd y bachgen ifanc arno.

Fe gafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent. Mae’r dyn yn parhau i fod yn yr ysbyty ar ôl i’r bachgen dorri asgwrn ei wyneb mewn sawl man gwahanol.

Mae’r bachgen 15-17 oed yn wyn, 5.5 troedfedd i 5.7 o daldra, gyda chorff cadarn. Roedd ganddo wallt golau oedd wedi’i dorri’n fyr ar yr ochrau.

Mae Heddlu Gwent yn apelio ar unrhyw un sydd â rhagor o wybodaeth i gysylltu ar 101 neu’n ddienw â Taclo’r Tacle’ ar 0800 555 111.