Mae elw cymdeithas adeiladu fwya’ Cymru wedi codi o 50% yn ystod y flwyddyn ddiwetha’,

Roedd Cymdeithas Adeiladu’r Principality wedi denu mwy o gwsmeriaid ac roedd hyd yn oed eu hasiantaeth gwerthu tai, Peter Alan, wedi gwneud elw.

Roedd cyfanswm elw’r grŵp yn £14.3 miliwn ac, yn ôl y Prif Weithredwr, Peter Griffiths, roedd peth o’r diolch i’r ffaith bod y Principality’n dal i fod yn gymdeithas adeiladu draddodiadol.

Ar adegau anodd, roedd cwsmeriaid yn dueddol o droi at fusnesau sefydlog, cyfarwydd, meddai ar Radio Wales.

Roedd yn disgwyl y byddai prisiau tai yn aros yn gymharol sefydlog eleni – y peryg mwya’ meddai yw’r anhawster i gael morgeisi.

Yn ôl ffigurau’r gymdeithas, roedden nhw wedi denu 67,000 o aelodau newydd yn ystod y flwyddyn.

Mae’r gymdeithas yn dathlu ei phen-blwydd yn 150 oed eleni.