Mae’r wennol ofod Endeavour wedi cyrraedd yr Orsaf Ofod Rhyngwladol.
Cafodd y wennol ei lansio ddydd Llun gan gario ystafell newydd a chromen wydr er mwyn i’r gofodwyr ar yr orsaf allu edrych allan i bob cyfeiriad.
Fe fydd y chwe gofodwr sydd wedi teithio ar Endeavour yn treulio mwy nag wythnos ar yr orsaf, lle mae pump o bobol yn byw eisoes.
Nos yfory bydd y gwaith yn dechrau i osod y darnau newydd yn eu lle – y darnau mawr olaf i gael eu hychwanegu at yr orsaf, sydd bron â bod yn gyflawn.
Fe fydd y gofodwyr hefyd yn tynnu lluniau o Endeavour er mwyn gweld a yw’r wennol wedi ei difrodi yn ystod y lansio.