Mae cylch meithrin yn parhau i fod ar gau yn Aberystwyth wrth i’r heddlu ymchwilio i honiad o ymosodiad rhywiol yno.
Fe gafodd person ei arestio a’i ryddhau ar fechnïaeth ddoe ar ôl i’r honiadau godi ddydd Llun yng Nghylch Meithrin St Padarn yn Heol Llanbadarn yn y dref.
Does dim rhagor o fanylion am y digwyddiad yn y feithrinfa sy’n cael ei chynnal gan bwyllgor o rieni – yr unig feithrinfa wirfoddol yn Aberystwyth.
Fe fydd y feithrinfa yn parhau ynghau dros dro gyda’r sefyllfa’n cael ei hadolygu o ddydd i ddydd.
Roedd cyfarfod o Fwrdd Diogelu Plant Ceredigion wedi’i gynnal ddoe – yn cynnwys Heddlu Dyfed-Powys ac Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg y cyngor sir.
Cefndir
Fe gafodd y Cylch Meithrin ei sefydlu bron 30 mlynedd yn ôl ac mae’n cynnal tri sesiwn gofal bob dydd ar gyfer plant rhwng dwy a hanner a phedair oed.
Mae’r trefnwyr yn pwysleisio bod y cylch wedi ei gofrestru gyda’r Arolygaeth Gwasanaethau Gofal a Chymdeithasol a bod archwiliadau cyson yn digwydd. Mae’r cylch hefyd wedi ei yswirio trwy Gymdeithas Cylchoedd Chwarae Cymru.
Mae Cyngor Ceredigion yn dweud bod gyda nhw swyddogion ar gael i drafod gyda rhieni ac i’w helpu i wneud trefniadau eraill i ofalu am eu plant. Mae modd cysylltu trwy’r wefan www.cis.ceredigion.gov.uk a’r rhif ffôn 01545 574000.
Does dim cysylltiad rhwng y Cylch Meithrin ac Ysgol Gynradd Babyddol Padarn Sant gerllaw.