Mae llys goruchaf China wedi dweud y dylai’r gosb eithaf gael ei defnyddio’n llai aml, gan ddweud y dylai llysoedd is “ystyried trugaredd yn ogystal â chyfiawnder”.
Mae China’n dienyddio mwy o bobol nag unrhyw wlad arall ac mae Llys Goruchaf y Bobol wedi bod yn fwy llafar yn ddiweddar ynglŷn â’r arferiad.
Fis Gorffennaf diwethaf dywedodd y llys na ddylai troseddwyr gael eu dienyddio os nad yw’r drosedd yn un ddifrifol, yn ôl asiantaeth newyddion y Llywodraeth, Xinhua.
Mae’r Llys Goruchaf yn ystyried pob cais gan y llysoedd is i ddienyddio troseddwyr, ac mae’r sylwadau’n awgrymu y bydd mwy yn cael eu gwrthod yn y dyfodol.
Yn ôl y Llywodraeth mae Llys Goruchaf China eisoes yn gwrthod tua 15% o’r ceisiadau i ddienyddio troseddwyr gan lysoedd is.
Mae elusen gyfiawder Amnest Rhyngwladol yn amcangyfrif bod China wedi dienyddio o leiaf 1718 o bobol yn 2008.