Fe allai symudiad tuag at ddull newydd o bleidleisio achosi cymhlethdod i’r refferendwm datganoli.
Ddoe fe bleidleisiodd Tŷ’r Cyffredin yn gryf o blaid cynnal refferendwm ar newid y dull o ethol Aelodau Seneddol.
Fe fyddai’n rhaid cynnal hwnnw cyn mis Hydref y flwyddyn nesa ac fe allai fynd ar draws y bwriad i gael refferendwm yng Nghymru.
Er gwaetha’ gwrthwynebiad y Ceidwadwyr a rhai aelodau Llafur mainc gefn, roedd yna fwyafrif o 386 i 187 dros gynnal y refferendwm i newid y drefn bleidleisio.
Yn lle system syml y cyntaf sy’n ennill, mae’r Llywodraeth bellach yn argymell system ATV, sy’n golygu gosod ymgeiswyr mewn trefn 1,2,3 gyda phleidleisiau’r collwr bob tro’n cael eu rhannu rhwng y gweddill yn ôl y drefn honno.
‘Nid PR’
Wrth gyflwyno’r syniad, trwy welliant i’r Mesur Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu, roedd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder yn mynnu nad oedd y system newydd yn ‘bleidleisio cyfrannol’ neu PR.
Roedd y llefarydd Ceidwadol, Dominic Grieve, yn beirniadu cost debygol y refferendwm o £80 miliwn, gan ddweud mai unig bwrpas y Blaid Lafur oedd ceisio closio at y Democratiaid Rhyddfrydol er mwyn cael eu cefnogaeth mewn senedd grog.
Fe gafodd Jack Straw ei gyhuddo o blygu i ddymuniadau’r Prif Weinidog. Yn ôl y cyn weinidog Ceidwadol, John Gummer, roedd y Prif Weinidog yn rhoi ei ddyfodol ei hun o flaen dyfodol y wlad.
‘Cam bach ymlaen’
“Cam bach ymlaen” oedd y cynllun, meddai’r Democratiaid Rhyddfrydol, ond roedd “yn werth ei gael” ac mae wedi cael croeso gan fudiadau, fel y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol, sy’n ymgyrchu tros newid.
Fe ddaw’r bygythiad mwya’ i’r syniad o Dŷ’r Arglwyddi lle mae disgwyl rhagor o wrthwynebiad. Gan fod amser yn brin cyn yr Etholiad Cyffredinol, fe allen nhw achosi problemau i’r Llywodraeth.