Caerdydd 2 – 0 Peterborough
Crystal Palace 0 – 1 Abertawe
Wrecsam 0 – 0 Tamworth

Cafodd Caerdydd fuddugoliaeth rhwydd yn erbyn Peterborough yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno.

Er fod y canlyniad yn un disgwyliedig yn erbyn y tîm sydd ar waelod cynghrair y Pencampwriaeth, mae’n siŵr o fod yn hwb mawr i obeithion gwŷr Dave Jones yn dilyn y gweir yn Newcastle dros y penwythnos.

Yr asgellwr o’r Alban, Chris Burke sgoriodd y gyntaf wedi hanner awr yn dilyn gwaith da gan Jay Bothroyd.

Daeth yr ail yn hwyr yn yr ail hanner, gyda Bothroyd eto’n chwarae rhan allweddol a’r amddiffynnwr Anthony Gerrard yn sgorio gyda deuddeg munud o’r gêm yn weddill.

Tîm Caerdydd: Marshall, McNaughton, Gyepes, Gerrard, Kennedy, Whittingham, McPhail (Taiwo 77), Burke, Blake (Wildig 21), Chopra, Bothroyd (Feeney 90+5)

Kuqi’n arwr

Ymosodwr newydd Abertawe, Shefki Kuqi, oedd sgoriwr unig gôl y gêm ym Mharc Selhurst heno, a hynny’n erbyn ei gyn glwb, Palace.

Daeth ei gôl gyntaf i’r clwb o fewn chwarter awr i ddechrau’r gêm, ac roedd yn ddigon i sicrhau fod Abertawe’n diogelu eu pumed safle yn y gynghrair. Mae’r fuddugoliaeth yn eu codi chwe phwynt uwchben Sheffield United, sef y tîm uchaf o’r rhai tu allan i safleoedd y gemau ail gyfle, a hynny gyda gêm wrth gefn.

Hon oedd buddugoliaeth gyntaf Abertawe ym Mharc Selhurst mewn 90 mlynedd.

Tîm Abertawe: De Vries, Williams, Tate, Monk, Bessone, Britton (Pintado 89), Pratley, Orlandi, Dyer (Allen 83), Gower (Cotterill 67), Kuqi

Gêm gyfartal arall i Wrecsam

Doedd pethau ddim cystal i Wrecsam ar y Cae Ras, a sgorio oedd y broblem eto wrth i’w gêm yn erbyn Tamworth orffen yn ddi-sgôr.

Mae tîm Dean Saunders yn aros yn y pedwerydd safle ar ddeg, 14 pwynt yn brin o safleoedd ail gyfle Uwch Gynghrair Blue Square.

Wrexham: Russell, Spann, Westwood, Assoumani, Mike Williams, McCluskey (Obeng 52), Fleming, Fairhurst (Anoruo 90), Holden, Baynes, Mangan.