Mae Ysgrifennydd Cymru wedi rhybuddio mai blaenoriaeth y Blaid Lafur tros y misoedd nesa’ yw’r Etholiad Cyffredinol, nid refferendwm datganoli.

Hynny er bod Aelodau’r Cynulliad wedi pleidleisio’n unfryd o blaid dechrau’r broses tuag at bleidlais o’r fath.

Fe ddywedodd Peter Hain ei fod yn “edrych ymlaen” at dderbyn llythyr gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, er mwyn cael dechrau’r “broses baratoi”.

Ond, meddai, “fel mae Carwyn a fi wedi dweud ar y cyd”, rydyn ni wedi cytuno taw’r “flaenoriaeth” dros y misoedd nesaf fydd yr Etholiad Cyffredinol.

Roedd arweinwyr yr holl bleidiau yn y Cynulliad yn croesawu’r bleidlais o 53 – 0 – tipyn mwy na’r 40 pleidlais oedd eu hangen i wthio’r cwch i’r dŵr.

Y llythyr oddi wrth Carwyn Jones at Peter Hain yw’r cam nesa’ – fe fydd ganddo yntau wedyn 120 diwrnod i ddatblygu gorchymyn drafft, gan gynnwys setlo ar union eiriau’r cwestiwn.

Bydd rhaid i’r Gorchymyn drafft yma hefyd gael cefnogaeth 40 o Aelodau’r Cynulliad a’i gymeradwyo gan Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.

‘Hanesyddol’ – Y Llywydd

“Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol yn nhaith datganoli yng Nghymru,” meddai Llywydd y Cynulliad, Dafydd Elis-Thomas.

“Cyfrifoldeb pobol Cymru – cyn belled â bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n cytuno – fydd penderfynu a ydym yn symud ymlaen i’r cyfnod nesaf o ddatganoli.”

‘Diolchgar’ – y Prif Weinidog

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud fod hwn yn “ddiwrnod o’r pwys mwyaf i ddyfodol llywodraeth yng Nghymru”.

“Rwy’n ddiolchgar dros ben am y gefnogaeth drawsbleidiol heddiw a fydd yn ein galluogi ni i gymryd y cam nesaf tuag at ddod â gwneud penderfyniadau yn agosach at y bobol,” meddai.

“Credaf fod y Cynulliad hwn wedi dangos, ac mae’r Llywodraeth yma wedi dangos, ein bod yn gallu trafod deddfu’n gyfrifol.

“Rydyn ni wedi dangos deddfau Cymreig o safon sy’n gallu gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobol yng Nghymru.”

‘Hyderus’ – Ieuan Wyn Jones

Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones, fod pobol yng Nghymru bellach yn “credu mai’r Cynulliad, yn hytrach nag unrhyw fan deddfu arall, a ddylai wneud y mwyafrif o’r penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd.”

“Dw i’n hyderus, os gofynnwch i bobol a ddylai’r Cynulliad gael mwy o arfau i wneud y swydd yn fwy effeithiol, yna fe fydd y rhan fwya’ o bobol Cymru yn dweud ‘ie’.

“Os oes gan Gynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd yr Alban bwerau i wneud deddfau heb orfod gofyn am ganiatâd oddi wrth San Steffan, yna pam ddylai hi fod yn wahanol i ni yng Nghymru.”

‘Cyson’ – Nick Bourne

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Bourne, wedi “croesawu’r penderfyniad.”

“Mae Aelodau Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn gyson yn ein cefnogaeth am refferendwm” meddai.

“Bydd pleidlais heddiw yn galluogi pobol o’r ddwy ochor i’r ddadl i gael dweud eu dweud am y modd y mae Cymru’n cael ei llywodraethu.”

‘Nid annibyniaeth’ – Kirsty Williams

Mae arweinydd y democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams, wedi dweud nad oes modd “tanbrisio” pwysigrwydd y bleidlais heddiw, a bod gwleidyddion ar draws y pleidiau yn barod i “symud ymlaen”.

“Tra bydd yn rhaid i’r Etholiad Cyffredinol a materion megis yr economi, ein gwasanaethau iechyd a’n hysgolion gymryd blaenoriaeth dros faterion trefniadol” meddai, “dyw hyn ddim yn golygu na all yr ymgyrch ie ddechrau dod i drefn.”

“Bydd yn rhaid i ymgyrch y refferendwm wneud yn glir nad annibyniaeth yw’r cam nesaf ac nad yw’n golygu mwy o wario ar y Cynulliad, ond y bydd yn rhoi’r arfau i Gymru i ni allu gwneud y swyddi y cawsom ein hethol i’w gwneud.”