Mae’r BBC wedi gwario £54 miliwn mewn 12 mis ar sêr sy’n cael eu talu mwy na £150,000 y flwyddyn.

Mae’r ffigwr, a gafodd ei gyhoeddi gan y Gorfforaeth heddiw, yn 1.55% o’r £3.6 biliwn y mae’r BBC yn ei dderbyn drwy’r drwydded bob blwyddyn.

Wnaeth y Gorfforaeth ddim cyhoeddi manylion cyflogau unigolion, na chwaith ddweud faint o unigolion a dderbyniodd fwy na £150,000 yn y cyfnod rhwng Ebrill 2008 a Mawrth 2009.

Y gred yw bod y cyflwynwyr Jonathan Ross, Graham Norton, Jeremy Paxman a Fiona Bruce ymhlith y rhai a gafodd eu talu fwyaf.

Costau gweithredwyr

Mae gwybodaeth hefyd wedi cael ei chyhoeddi am gostau chwarterol mwy na 100 o brif swyddogion y Gorfforaeth.

Roedd 107 ohonyn nhw wedi hawlio costau o £188,000 rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2009, sy’n £586 yr un y mis ar gyfartaledd.

Mae’r ffigurau hefyd yn dangos bod:

• £115 miliwn wedi ei wario ar weithwyr oedd yn ennill hyd at £50,000
• £44 miliwn wedi ei wario ar weithwyr oedd yn ennill rhwng £50,000 a £100,000
• £16 miliwn wedi ei wario ar weithwyr oedd yn ennill rhwng £100,000 a £150,000

Bydd y BBC yn parhau i gyhoeddi’r manylion yma bob blwyddyn.