Mae Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi pleidleisio o blaid cynnal refferendwm am bwerau deddfu llawn.

Mewn pleidlais yn y Senedd heddiw, roedd 53 o Aelodau Cynulliad o blaid, a neb yn erbyn.

Roedd angen 40 pleidlais i sicrhau fod y broses yn dechrau – y cam nesaf yw bod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn rhoi gwybod i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Peter Hain, am ganlyniad y bleidlais heddiw ac yn gwneud cais am orchymyn i drefnu refferendwm.

Fe fydd gan Peter Hain wedyn 120 diwrnod i ddatblygu’r gorchymyn drafft, gan gynnwys setlo ar union eiriau’r cwestiwn.

Bydd rhaid i’r Gorchymyn drafft yma hefyd gael cefnogaeth 40 o Aelodau’r Cynulliad a’i gymeradwyo gan Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.


‘Diwrnod hanesyddol’

Yn dilyn y bleidlais, dywedodd Llywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, fod “hwn yn ddiwrnod hanesyddol yn nhaith datganoli yng Nghymru”.

“Cyfrifoldeb pobol Cymru – cyn belled â bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n cytuno – fydd penderfynu a ydym yn symud ymlaen i’r cyfnod nesaf o ddatganoli.”

Byddai pleidlais gadarnhaol mewn refferendwm yn rhoi’r hawl i’r Cynulliad wneud deddfau mewn unrhyw faes sydd wedi’i ddatganoli, heb orfod mynd ar ofyn San Steffan fel ar hyn o bryd.