Mae’r artist a enillodd Fedal Aur Celfyddyd Gain yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd ar fin agor ei arddangosfa unigol gynta’ ers hynny.
Fe fydd Elfyn Lewis, yr arlunydd o Gaerdydd, yn dangos 50 baentiadau newydd yn y sioe sy’n dechrau ar 19 Chwefror, yn Neuadd Dewi Sant yn y brifddinas.
“Nod fy ngwaith diweddaraf yw mwynhau paent – mae hynny fel petai’n gweithio i mi,” meddai Elfyn Lewis, sy’n enwog am linellau trwchus o baent.
“Mae’n rhaid i mi barhau i geisio datblygu fel artist. Mae ennill gwobrau yn rhoi hwb i fy hyder i, ond mae hefyd yn rhoi hyder i bobol eraill ddechrau prynu a chasglu fy ngwaith.”
Datblygu
Mae ei waith wedi datblygu’n sylweddol dros yr 14 mlynedd diwethaf, ers pan oedd yn fyfyriwr Celf yng Nghaerdydd, meddai.
Cafodd lwyddiant bryd hynny gyda’i ddarluniau enwog o wynebau tameidiog ar flaenau cryno ddisgiau cynnar y grŵp roc Catatonia.
Erbyn hyn, mae’n taro’r cynfas gyda phaent trwchus, gan adael iddo ddiferu dros ymyl y cynfas. Ond, er bod ei waith yn haniaethol, mae wedi’i wreiddio yng ngolygfeydd Cymru, meddai.
Celf ‘ddamweiniol’
Yn ôl yr artist, sy’n dod yn wreiddiol o Borthmadog, mae ei waith yn 90% proses, 9% gallu ac 1% o lwc.
“Ond, mae lwc yn gallu achub peintiad. Dw i’n gallu mynd yn eitha’ manig wrth beintio,” meddai.
“Dw i’n rhoi un haen, un arall ac yna’n ei adael. Mae’r paent sy’n diferu drosodd yn rhan ohono. Mae’n ddamweiniol – mae taflu paent yn reddfol.”
‘Profi’
Dywedodd Ruth Cayford, curadur Neuadd Dewi Sant, ei fod yn “deimlad cyffrous arddangos arlunydd sydd mor ddiffuant am ei waith”.
“Mae Elfyn yn enghraifft berffaith o artist yn mynegi ei hun a hynny’n ychwanegu hud ac angerdd at ei waith.
“Fel mae e’n dweud yn aml, does dim modd deall rhai pethau, mae’n rhaid eu profi. Rwy’n credu fod hyn yn wir am ei waith.”