Mae cogydd ifanc addawol yn gobeithio cipio dwbl ym myd coginio.
Gobaith Chris Owen (dde), 23, sy’n gweithio yn y Castle Hotel yng Nghonwy yw bod yr ail gogydd erioed i ennill dwy brif wobr Cymdeithas Goginio Cymru.
Fe enillodd Chris Owen gystadleuaeth iau Prif Gogydd Cenedlaethol Cymru yn 2007.
Dydd Mawrth nesaf fe fydd yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Coginio Ryngwladol Cymru yng Ngholeg Llandrillo Cymru.
Pe bai’n ennill, fe fyddai’r ail gogydd Cymreig erioed i ennill y ddwy wobr – gan ddilyn yn ôl troed y cogydd Danny Burke, a gyflawnodd y gamp 10 mlynedd ôl.
“Byddai’n deimlad gwych i ennill y ddau deitl ac fe fydda i yn trio fy ngorau glas,” meddai Chris Owen.
Y Cystadleuwyr
Yn ymuno â Chris Owen yn rownd derfynolPencampwriaeth Coginio Ryngwladol Cymru fydd:
• Luke Thomas, disgybl 16 blwydd oed o Ysgol Uwchradd Cei Connah.
• Enillydd rownd De Cymru Iain Sampson (uwchben), 42 o Fwyty, Spa a Thŷ Gwledig Peterstone Court yn Aberhonddu a
• Jim Hamilton, 35 o Westy Fairyhill yn Abertawe.
“Rydw i’n edrych ymlaen at y rownd derfynol. Ond, mae’n mynd i fod yn sialens gan fy mod i’n cystadlu yn erbyn cogyddion sydd wedi bod yn gweithio ers blynyddoedd,” meddai Luke Thomas, enillydd cystadleuaeth genedlaethol FutureChef y llynedd.
Fe fydd enillydd y gystadleuaeth eleni, sy’n cael ei noddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Hybu Cig Cymru, yn derbyn gwobr o £2,000, yn ogystal â thlws a theitl Prif Gogydd Cenedlaethol Cymru.
Bydd rhaid i’r cystadleuwyr yn rownd derfynol y gystadleuaeth eleni ddyfeisio bwydlen o restr cynhwysion na fydd yn cael ei ddatgelu tan y noson cyn y gystadleuaeth.
Dywedodd Iain Sampson y byddai ennill y gystadleuaeth yn gwneud iddo deimlo fel “cogydd cyflawn,” nid cogydd sy’n arbenigo mewn nifer bychan o brydau yn unig.
“Mae’n mynd i fod yn gystadleuaeth ddiddorol iawn. Mae gennym ni bedwar o gystadleuwyr gwych,” meddai Peter Jackson, cydberchennog Gwesty Maes-y-Neuadd, Talsarnau Harlech a Chadeirydd Cymdeithas Goginio Cymru.