Mae artist 24 oed yn gobeithio ysbrydoli ei chynulleidfa â arddangosfa newydd sbon yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne.
Mae Naomi Smith, arlunydd preswyl ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe, yn creu gwaith ar thema cof a marwolaeth.
Mae’n defnyddio arlunio a cherflunio er mwyn ymchwilio i themâu personol sydd o natur gyffredinol.
Dywedodd fod yn well ganddi ddefnyddio deunyddiau synhwyraidd, fel mêl a chŵyr, yn hytrach na deunyddiad cyffredin.
“Mae fy ngwaith yn adlewyrchu atgofion a cholli’r sgiliau sy’n cael eu pasio o genhedlaeth i genhedlaeth,” meddai Naomi Smith.
“Mae defnyddio cŵyr gwenyn naturiol er mwyn castio darnau o gyfarpar diwydiannol yn adlewyrchu effaith y byd economaidd ar ddiflaniad byd eang y wenynen fêl, ochr yn ochr â difodiant diwydiannau a chrefftwaith.”
‘Celf yn fy nilyn’
Mae ei rhieni sydd wedi teithio’n eang wedi bod yn ysbrydoliaeth gynnar iawn ar Naomi.
“Ers i mi fod yn blentyn, dw i wedi bod yn gwneud pethau,” meddai.
“Byddai fy rhieni yn eistedd i lawr gyda mi, a byddwn yn treulio oriau yn gludo unrhyw hen wrthrychau oedd o gwmpas y lle at ei gilydd er mwyn gwneud cerfluniau diddorol o unrhyw hen ddeunyddiau.”
Doedd yna ddim cwestiwn, mewn gwirionedd, beth oedd hi am ei wneud ar ôl tyfu fyny.
“Mae celf wedi fy nilyn i bobman, a fyddwn i ar goll yn llwyr hebddo.”
Ar ôl treulio ei phlentyndod yn teithio o gwmpas y byd gyda’i rhieni, penderfynodd y teulu setlo yn Swydd Gaerloyw pan oedd Naomi yn naw oed.
Yno aeth i Goleg Celf Stroud a mynd ymlaen i ennill gradd dosbarth cyntaf mewn ‘Celfyddyd gain: Cyfryngau Cyfun’ ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe.
‘Llifddorau atgofion’
“Mae pob darn o waith yr wyf yn ei gynhyrchu yn fanwl iawn, ac felly’n denu’r llygad i sylwi ar yr hyn na fydd pobol yn sylwi arno fel arfer, neu’r hyn sy’n cael ei gymryd yn ganiataol.
“Dw i am ysbrydoli fy nghynulleidfa i gydnabod harddwch sy’n aros mewn pethau cyffredin, a’u gwahodd i agor llifddorau atgofion a chael eu cyffwrdd.
“Dw i am annog y dwylo i ymgysylltu a dangos yr hyn y gall ei greu.”
Mae arddangosfa’r, sef Hand Made, i’w weld yn Oriel Cwrt y Stablau yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru tan Mawrth 24.