Dyw arweinwyr y Taliban ddim eisiau heddwch yn y wlad na thrafodaeth gyda Llywodraeth Afghanistan, rhybuddiodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Bob Ainsworth heddiw.

Wrth roi tystiolaeth ym Mhwyllgor Amddiffyn Tŷ’r Cyffredin dywedodd mai’r unig ffordd o orfodi’r Taliban i drafod oedd drwy barhau’r ymgyrch filwrol.

Dywedodd Bob Ainsworth mai denu’r rhai oedd ar ymylon y Taliban i weithio gyda’r llywodraeth oedd y nod.

Roedd rhai o’r gwrthryfelwyr wedi eu hysgogi i frwydro oherwydd problemau lleol yn hytrach nag er mwyn cymryd rhan yn “jihad” byd-eang Al Qaida.

Cyfaddefodd nad oedd unrhyw awgrym y byddai Llywodraeth Afghanistan yn cymodi gyda’r Taliban yn y tymor byr.

“Rydym yn bell o fod mewn sefyllfa i gymodi gyda’r Taliban,” meddai.

“Dw i ddim yn credu fod y rhan fwyaf o’r arweinwyr eisiau cymodi. Ond efallai y daw hynny, os ydan ni’n parhau i wneud cynnydd.”

Dywedodd ei bod yn bwysig parhau i ddatblygu heddlu a byddin Afghanistan fel bod y Llywodraeth mewn sefyllfa rymus pan ddaw’r trafodaethau.

Gwadodd y bydden nhw’n ceisio annog gwrthryfelwyr i roi’r gorau i frwydro drwy eu llwgrwobrwy. Y nod meddai oedd cynnig swyddi a datrys problemau lleol.