Mae albwm o ganeuon Cymreig wedi ennill gwobr ryngwladol am gerddoriaeth traddodiadol.

Enillodd ‘Blodeugerdd: Song of the Flowers’ wobr albwm traddodiadol gorau’r byd yng Ngwobrau Cerddoriaeth Annibynnol 2009.

Cafodd yr albwm ei chynhyrchu ar gyfer y label Smithsonian Folkways a’i lansio yng Ngŵyl Smithsonian Washington y llynedd.

“Roedd ennill y wobr yn gadarnhad fod yr hyn roedden ni wedi’i wneud gyda’r CD yn ddilys” meddai Ceri Rhys Matthews, cynhyrchydd y cryno ddisg.

“Dim gwleidyddiaeth”

“Roedd y ffaith fod corff annibynnol wedi gwobrwyo’r gryno ddisg yn dda,” meddai, a’i fod yn “sbardun i nifer o’r cerddorion arno barhau i chwarae”.

“Nid busnes a gyrfa yw cerddoriaeth i lawer o’r cerddorion hyn ond celfyddyd.”

“Mae’n anodd iawn cyhoeddi’r math yma o gerddoriaeth,” meddai cyn ychwanegu mai o flaen y tan, mewn tai neu mewn neuaddau pentref mae’r gerddoriaeth yn cael ei chwarae’n aml.

Fe gafodd y gryno ddisg ei recordio mewn hen borthdy o’r oes Tuduraidd fel bod “naws cartrefol” iddo, meddai’r cynhyrchydd.

Ymhlith beirniaid y gystadleuaeth roedd Tom Waits, Charlie Musselwhite, Ricky Skaggs, Judy Collins a Susan Vega.

Mae 14 o draciau ar y cryno ddisg, gan gynnwys cyfraniad gan Max Boyce.