Mae asgellwr newydd y Gweilch, Richard Fussell yn gobeithio y bydd ymuno â’r rhanbarth yn help iddo wireddu ei obeithion rhyngwladol gyda Chymru.
Fe fydd chwaraewr y Dreigiau yn ymuno â’r Gweilch ar ddiwedd y tymor ar ôl arwyddo cytundeb dwy flynedd.
Mae Fussell wedi chwarae 78 o weithiau i’r Dreigiau ers ymuno yn 2005, gan sgorio 23 cais.
“Rwy’n edrych ymlaen at ymuno gyda’r Gweilch er mwyn datblygu fy ngyrfa,” meddai Fussell.
“Mae nifer fawr o chwaraewyr y Gweilch yn chwarae i Gymru, felly maen nhw’n amlwg yn gwneud rhywbeth yn iawn.”
Mae Fussell yn cydnabod bod gan y Gweilch dalent mawr ar yr asgell yn barod, ond mae’n credu y bydd y gystadleuaeth yn ei helpu i wella fel chwaraewr.
Dywedodd Prif Hyfforddwr y Gweilch, Sean Holley, bod y Gweilch wedi arwyddo Fussell oherwydd nifer yr asgellwyr sydd ar ddyletswydd ryngwladol.
“Gyda Shane Williams, Tommy Bowe, Nikki Walker a nawr Kristian Phillips a Tom Prydie yn cael ei galw i chwarae ar y lefel rhyngwladol ar wahanol adegau, roedd angen cryfhau’r safle,” meddai Holley.
“Roedden ni’n chwilio am Gymro sy’ngyson o ran ei chwarae. Mae Richard yn chwaraewr sy’n chwarae’n dda, sy’n gallu amddiffyn a sgorio ceisiau.”