Mae person wedi ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl cael ei arestio yn dilyn honiad o ymosodiad rhywiol mewn cylch meithrin yng Ngheredigion.
Dywedodd Heddlu Dyfed -Powys eu bod nhw wedi cau’r cylch meithrin dros dro ac y byddan nhw’n adolygu’r sefyllfa yn ddyddiol.
Yn ôl asiantaeth newyddion y Press Association, cylch meithrin St Padarn yn Aberystwyth, sydd wedi ei gau.
Mewn datganiad dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod nhw’n “cymryd yr honiad o ddifri ac mae ganddynt swyddogion wedi eu hyfforddi’n arbennig er mwyn delio gydag unrhyw ddioddefwyr neu droseddwyr honedig”.
Yn ôl yr heddlu mae’r cylch meithrin wedi ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Dyfed Powys ar 101.