Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi gwneud dau newid i’r tîm wnaeth golli yn erbyn Lloegr i wynebu’r Alban dydd Sadwrn.

Mae’r clo, Alun-Wyn Jones yn cadw ei le yn y tîm er gwaethaf ei garden felen yn erbyn Lloegr am faglu Dylan Hartley.

Mae Leigh Halfpenny yn cymryd lle Tom James ar yr asgell, ac mae Jonathan Thomas wedi ei ddewis yn yr ail reng yn lle’r clo Luke Charteris.

“Mae Leigh yn cynnig opsiwn cicio ychwanegol i’r tîm, ac mae o wedi dychwelyd i ffitrwydd llawn ar ôl i ni orfod cyfyngu ar ei ymarferion cyn y gêm yn erbyn Lloegr”, meddai Gatland.

“Bydd Jonathan hefyd yn ychwanegu profiad i’r pump blaen.”

Fe fydd y prop Gethin Jenkins ar y fainc ar ôl dychwelyd o anaf, a Paul James yn cychwyn yn y rheng flaen.

“Ry’n ni’n falch i allu enwi Gethin Jenkins fel rhan o’r garfan ond bydd rhaid iddo gael prawf ffitrwydd arall yn ystod yr wythnos”, meddai Prif Hyfforddwr Cymru.

Er gwaethaf eu perfformiadau siomedig yn erbyn Lloegr, mae Gatland wedi penderfynu rhoi cyfle arall i’r mewnwr, Gareth Cooper a’r bachwr, Gareth Williams i brofi eu gwerth i’r tîm.

‘Cyfle i daro ‘nôl’

Dywedodd Warren Gatland bod y gêm yn erbyn yr Alban yn gyfle i’r chwaraewyr daro ‘nôl ar ôl y siom o golli yn erbyn Lloegr yn Twickenham.

“Roedd pawb yn siomedig gyda’r canlyniad yr wythnos diwethaf,” meddai Gatland.

“Ond y newyddion da i’r chwaraewyr yw bod ganddyn nhw gyfle i daro nôl yn yr Alban.

“Dim ond dechrau mae’r bencampwriaeth. Ry’n ni ‘nôl yn Stadiwm y Mileniwm er mwyn ail-danio’r ymgyrch. Mae hon yn gêm sy’n rhaid i ni ei hennill.”

Carfan Cymru

15. Lee Byrne, 14. Leigh Halfpenny, 13. James Hook, 12. Jamie Roberts, 11. Shane Williams, 10. Stephen Jones, 9. Gareth Cooper.

1. Paul James, 2 Gareth Williams, 3. Adam Jones, 4. Alun Wyn Jones, 5. Jonathan Thomas, 6. Andy Powell, 7. Martyn Williams, 8. Ryan Jones.

Eilyddion- 16. Huw Bennett, 17. Gethin Jenkins, 18. Bradley Davies, 19.Sam Warburton, 20. Richie Rees, 21. Andrew Bishop, 22.Tom Shanklin.