Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dechrau agor eto ar ddyddiau Sadwrn o 8 Mai ymlaen.

Mae’n ymddangos bod Llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi pwysau arnyn nhw i wneud hynny ar ôl storm o brotest pan wnaed y penderfyniad i gau fwy na blwyddyn yn ôl.

Roedd y Llyfrgell yn cydnabod heddiw bod y Llywodraeth wedi “gofyn” iddyn nhw ddechrau agor ar ddydd Sadwrn unwaith eto.

‘Dim pwysau ariannol’

Ond yn ôl Cyfarwyddwr Adran Gwasanaethau Cyhoeddus y Llyfrgell, Arwel ‘Rocet’ Jones, doedd “dim sail o gwbl” i’r honiad fod pwysau ariannol arnyn nhw i wneud hynny.

Dywedodd bod y Cynulliad wedi gofyn i’r Llyfrgell ystyried ail agor ar Sadyrnau, a’u bod wedi llwyddo i wneud hynny yn sgîl arbedion ariannol a wnaed y llynedd.

Ond ychwanegodd y byddai yna gyfyngiadau ar y gwasanaeth – fe fydd yr ystafelloedd darllen yn ail agor, meddai, ond ni fydd dim staff yn nôl llyfrau. Bydd angen i unrhyw un sydd am ddefnyddio llyfrau ar ddydd Sadwrn eu harchebu o flaen llaw.

Dyw’r llyfrgell ddim wedi agor ar ddyddiau Sadwrn ers mis Ebrill 2009. Fe ddywedodd y Llyfrgell ar y pryd bod angen iddyn nhw arbed £250,000 oherwydd cynnydd mewn costau a llai o arian gan Lywodraeth y Cynulliad.