Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi eu bod am dorri 300 o swyddi er mwyn lleihau costau.

Fe fydd y cwmni, sy’n cyflenwi dŵr i 1.2 miliwn o dai yng Nghymru a rhannau o Loegr, yn torri’r swyddi dros y pum mlynedd nesaf.

Fe fydd y toriadau yn rhan o broses o aildrefnu’r cwmni er mwyn torri costau o 20%.

Mewn datganiad dywedodd y cwmni eu bod nhw’n gweithio er mwyn gwireddu’r “targedau effeithlonrwydd a’r nodau” sydd wedi cael eu gosod iddyn nhw.

‘Gweithio gyda staff’

“R’yn ni am weithio’n agos gyda’n staff a’r undebau llafur er mwyn torri swyddi drwy gyfuniad o ymddeoliadau ac ymddiswyddiadau gwirfoddol. Mae’n rhaid i ni ddod a chostau dydd i ddydd i lawr 20%.

“Fe fyddwn ni’n gwneud hyn drwy wneud y gorau o’n buddsoddiad mawr mewn technoleg newydd, drwy beidio â dyblygu gwaith, a thrwy fuddsoddi mewn egni gwyrdd er mwyn gostwng costau ynni.”

Ers 2001 mae Dŵr Cymru yn eiddo i Glas Cymru, cwmni sydd heb fod er mwyn elw.