Mae plât oedd wedi’i gadw ar hen seld yng Nghymru ers blynyddoedd werth £100,000 yn ôl arbenigwr Antique Roadshow, y gwerth mwyaf erioed am blât yn hanes y sioe.
Cariodd Wendy Jones, o Gaerfyrddin, y plât 22 modfedd i’r sioe yn Aberglasney mewn hen fag Tesco.
Cafodd ei adnabod fel un o set o 100 gafodd ei gomisiynu gan Frederick II o Brwsia (dde), 260 mlynedd yn ôl.
Cafodd y plât ei wneud yn China a’i gyflwyno i’r Brenin gan Gwmni Dwyrain India Prwsia.
Dywedodd Wendy Jones bod y llestr wedi bod yn eistedd ar hen seld yn ei thŷ ers blynyddoedd, ac wedi disgyn ar y llawr fwy nac unwaith heb dorri.
Roedd hi wedi mynd i’r sioe yn Aberglasney er mwyn gweld beth oedd gwerth pentwr o lyfrau, ac wedi penderfynu mynd a’r plât ar y funud olaf, meddai.
Teulu o’r Almaen
“Fe es i oherwydd bod fy ngŵr eisiau mynd a cwpwl o lyfrau,” meddai Wendy Jones.
“Wnes i afael yn y plât a’i roi o mewn bag Tesco – maen nhw’n rhwygo’n hawdd.
“Pan glywais i faint oedd o werth ges i sioc. Doeddwn i ddim yn gwybod ei fod o werth dim. Doedd gen i’m geiriau.”
Dywedodd bod y plât yn eiddo i’w mab oedd wedi ei adael yng Nghymru am nad oedd lle iddo yn ei dŷ yn Llundain.
Roedd o wedi ei etifeddu gan ei fam- gu ar ochor ei dad a oedd wedi priodi dyn o’r Almaen.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Antiques Roadshow mai dyna oedd y plât mwyaf gwerthfawr yn hanes 30 mlynedd y sioe.