Fe gyhoeddodd y Democratiaid Rhyddfrydol y bydd Aelod Cynulliad Maldwyn, Mick Bates, yn treulio’r wythnos yma’n gweithio yn ei etholaeth.
Mae hynny’n golygu y bydd yn colli’r bleidlais fawr y prynhawn yma i ddechrau proses y refferendwm datganoli.
Fe ddaw hynny ar ôl yr honiadau fod yr AC wedi ymosod yn eiriol ar griw ambiwlans a tharo un parafeddyg yn ei frest ar ôl noson allan yng Nghaerdydd.
Mae wedi cydnabod ei fod yn feddw ar y noson, ychydig dros bythefnos yn ôl. Fe gafodd yr ambiwlans ei galw ar ôl iddo daro’i ben wrth gael ei daflu allan o le bwyta yng Nghaerdydd.
Meddyg
Fe ddywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Kirsty Williams, ei fod hefyd yn mynd i weld y meddyg.
Mae Mick Bates yn dweud nad yw’n cofio dim am y digwyddiad yn oriau mân y bore ar Ionawr 23.
Fe ddywedodd Heddlu De Cymru ddoe eu bod yn dal i ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd – mae’r heddlu a Llywodraeth y Cynulliad wedi cytuno ar femorandwm i erlyn pobl sy’n ymosod ar weithwyr iechyd.