Mae chwaraewr canol cae Caerdydd, Stephen McPhail, wedi dweud ei fod o wedi pryderu bod ei yrfa ar ben ar ôl clywed ei fod yn dioddef o ganser.

“Roedd o’n sioc enfawr, ac fe wnes i feddwl yn syth na fyddwn i’n chwarae eto,” meddai McPhail.

Ond dywedodd bod pêl droed wedi bod yn help iddo anghofio am y salwch a chanolbwyntio ar y chwarae.

Fe wnaeth McPhail chwarae am y tro cyntaf ers y salwch pan gollodd Caerdydd yn erbyn Newcastle nos Wener ddiwethaf.

“Mae’n braf bod yn ôl yn chwarae, doeddwn i heb ddisgwyl i hynny ddigwydd mor gyflym,” meddai McPhail.

“Fe wnes i fwynhau’r gêm – heblaw am y canlyniad, wrth gwrs. Dwi’n gobeithio cymryd rhan ymhob gêm tan ddiwedd y tymor, os fyddai’n ffit.”

Dywedodd rheolwr yr Adar Glas, Dave Jones, ei fod o’n hapus iawn i weld Stephen McPhail nol yn chwarae ar ôl absenoldeb hir.

“Ry’n ni’n falch iawn ei fod e nôl. Ar hyn o bryd mae’n teimlo’n llawn egni ac fe fydd yn cryfhau ymhellach wrth chwarae mwy o gemau,” meddai Dave Jones.