Mae’r heddlu a chefnogwyr yr Arlywydd Hugo Chavez wedi gwrthdaro gyda myfyrwyr mewn dinasoedd ledled y wlad yn ystod protestiadau ynglŷn â chau sianel deledu i lawr.

Cafodd un llanc ei ladd a 16 o bobol eu hanafu ar ôl i’r llywodraeth dynnu sianel deledu gan yr wrthblaid oddi ar yr awyr.

Digwyddodd y rhan fwyaf o’r gwrthdaro yn Caracas lle y saethodd yr heddlu nwy a bwledi plastig er mwyn gwasgaru miloedd o fyfyrwyr.

Roedden nhw’n gorymdeithio i gyfeiriad pencadlys asiantaeth darlledu llywodraeth Venezuela.

Yn ninas orllewinol Merida cafodd llanc ei ladd yn ystod brwydro rhwng cefnogwyr a gwrthwynebwyr yr arlywydd pan geisiodd yr heddlu eu gwahanu nhw, meddai’r gweinidog cyfiawnder Tareck El Aissami.

Yn ôl asiantaeth newyddion ABN y llywodraeth, bachgen ysgol o’r enw Jossimir Carrillo Torres cafodd ei ladd. Anafwyd naw o heddweision yn y brwydro.

‘Rhyddid barn’

Dechreuodd y protestiadau ar ôl i’r llywodraeth orchymyn cau sianel Radio Caracas Television Internacional dydd Sul.

“Mae rhyddid barn yn hawl ac mae’n rhaid ei amddiffyn,” meddai Alejandro Perdomo, 19, sydd wedi cyhuddo Hugo Chavez o geisio tawelu ei feirniaid.

“Fe fydd Radio Caracas yn ei ôl!” bloeddiodd y dyrfa.

Dywedodd y llywodraeth bod y sianel wedi tynnu’n groes i reolau newydd oedd yn gofyn eu bod nhw’n darlledu areithiau Hugo Chavez.

Cafodd pum sianel arall eu cau i lawr ond doedd yr un ohonyn nhw mor boblogaidd â Radio Caracas, sydd wedi bod yn feirniadol iawn o’r llywodraeth yn Venezuela.