Mae chwaraewr Abertawe, Leon Britton, wedi cadarnhau bod ganddo ddiddordeb mewn ymuno gyda Wigan Athletic.
“Rwy’n 27 oed ac mae chwarae yn yr Uwch Gynghrair yn rhywbeth yr ydw i wastad wedi gweithio’n galed amdano”, meddai Britton wrth bapur newydd yr Evening Post.
“Dw i wedi gwneud popeth i gyrraedd y lefel yna. Dyna’r cynghrair gorau yn y byd a dw i’n awyddus i chwarae ynddo fe.”
Mae cytundeb presennol y chwaraewr canol cae yn dod i ben dros yr haf, ac fe allai ymuno gyda chlwb arall am ddim ar ddiwedd y tymor.
Pe bai Abertawe’n ei werthu cyn i’r ffenest drosglwyddo gau, fe fydden nhw’n cael rhywfaint o arian amdano.
Martinez
Rheolwr Wigan yw Roberto Martinez, cyn-reolwr Abertawe, ac mae’n awyddus i arwyddo ei gyn chwaraewr wrth iddo ymdrechu i gadw’r clwb yn yr Uwch Gynghrair. Mae eisoes wedi mynd â chwaraewyr gydag ef o’r Liberty.
“Yn amlwg mae Roberto yn fy adnabod yn dda,” medai Britton. “Dw i wedi chwarae gydag ef a chwarae o dan ei arweiniad. Felly mae’n ymwybodol o’r hyn rwy’n gallu ei wneud.”
Er hynny fe ddywedodd y chwaraewr bach y byddai’n rhoi popeth i’r Elyrch pe bai’r symudiad yn methu.