Dyw un o bob tair menyw ifanc ddim yn gwybod beth sy’n achosi canser ceg y groth, yn ôl ymchwil newydd.
Hyn er bod bron i dair menyw yn marw o’r afiechyd ym Mhrydain bod dydd.
Dyma’r canser mwyaf cyffredin ymysg menywod rhwng 20-29 oed a’r ail fwyaf cyffredin ymysg menywod o dan 35 oed.
Mae’r afiechyd wedi derbyn mwy o sylw ers marwolaeth seren Big Brother, Jade Goody y llynedd ond, yn ôl holiadur, dim ond 21% o fenywod rhwng 16-35 oed oedd yn cytuno’n gryf bod yr afiechyd yn fygythiad.
Mae’r ymchwil gan gwmni cyffuriau GlaxoSmithKline yn dangos bod 62% o fenywod yn credu – yn anghywir – mai menywod gyda hanes teuluol o’r afiechyd sydd mewn mwyaf o beryg.
Mae ymchwil gan wyddonwyr wedi canfod nad yw’r afiechyd yn etifeddol a bod y rhan fwyaf o achosion yn cael eu hachosi gan firws.
Llun: Arwyddion cynnar o ganser ceg y groth