Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud eu bod nhw’n ymroddedig i gadw’r cysylltiad awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn i fynd.

Yn ôl papur newydd y Scotsman cafodd staff Highland Airways, sy’n rhedeg y cysylltiad awyr, wybod ddoe bod y cwmni’n wynebu trafferthion.

Mae gwefan y cwmni’n gwrthod gadael i ymwelwyr archebu tocyn gan ddweud mai “problemau technegol” sy’n gyfrifol.

Yn ôl y Scotsman roedd diffyg teithwyr yn sgil eira mawr y flwyddyn newydd wedi gwaethygu problemau’r cwmni.

Mewn datganiad dywedodd y cwmni eu bod nhw’n “trafod gyda buddsoddwr newydd” ac y byddai cyhoeddiad o fewn diwrnodiau.

Mae’r cwmni yn cael £800,000 y flwyddyn gan Lywodraeth y Cynulliad am gynnal y cysylltiad awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn.

Mae hefyd yn cael £464,446 y flwyddyn gan Gyngor y Western Isles i gynnal y cysylltiad rhwng Stornoway a Benbecula, a £452,700 gan Gyngor Bute am y cysylltiad rhwng Oban, Coll a Colonsay.

‘Cadw’r gwasanaeth i fynd’

“Mae Llywodraeth y Cynulliad yn parhau’n ymroddedig i gadw’r cysylltiad hanfodol yma,” meddai’r gweinidog trafnidiaeth Ieuan Wyn Jones.

“Rydym ni wedi bod mewn cysylltiad gyda Highland Airways fel eu bod nhw’n gallu rhoi gwybod am unrhyw fuddsoddwyr posib.

“Ein prif flaenoriaeth yw cadw’r gwasanaeth i fynd. Yn ddelfrydol byddai Highland Airways yn parhau i redeg y cysylltiad.”

Dywedodd bod y cysylltiad wedi bod yn llwyddiant mawr tu hwnt i ddisgwyliadau’r llywodraeth, gyda 37,000 o deithwyr yn ei ddefnyddio ers mis Mai 2007.

“Os ydi Highland Airways yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr rydyn ni’n gobeithio y gall y gweinyddwyr barhau i redeg y cysylltiad.”

Dywedodd eu bod nhw ar ganol ail dendro’r gwasanaeth a bod eu cytundeb gyda Highland Airways yn dod i ben ym mis Mai.