Mae 96,000 o blant yng Nghymru mor dlawd fel nad oes ganddyn nhw ddigon o ddillad na bwyd, meddai elusen.
Yn ôl Achub y Plant, mae’r frwydr yn erbyn tlodi plant yn cael ei cholli, gyda 260,000 yn rhagor o blant mewn tlodi eithafol trwy wledydd Prydain nag oedd bum mlynedd yn ôl.
Y ffigwr ar gyfer gwledydd Prydain i gyd yw 1.7 miliwn, gyda bron un o bob pump yn Llundain.
Mae’r ffigwr yn uchel yng Nghymru – 1,000 yn fwy nag yn yr Alban ac yn uwch na’r cyfartaledd yn ôl maint y boblogaeth.
Mae plant croenddu o deuluoedd o Affrica a phlant mewn teuluoedd o Bacistan a Bangladesh dair gwaith yn fwy tebyg o fod mewn tlodi eithafol na phlant gwyn.
Y ddau gategori amlwg arall yw rhieni sengl a phlant o deuluoedd di-waith – mae 50% o’r plant sydd mewn tlodi’n dod o’r naill gategori a’r llall.
Dim gwely na chôt
Y diffiniad o dlodi yw teuluoedd sy’n cael llai na 50% o’r cyfartaledd incwm a lle mae plant yn gorfod gwneud heb anghenion fel côt aeaf, gwely a chyfleusterau elfennol eraill.
Yn y pedair blynedd o ffyniant economaidd cyn y dirwasgiad, fe gododd nifer y plant mewn tlodi o 260,000, meddai Achub y Plant, ond fe fydd cynnydd mewn credydau treth a budd-daliadau wedi atal y ffigwr rhag codi ymhellach.
“Mae’n arswydus meddwl, ar adeg pan oedd y Deyrnas Unedig yn mwynhau cyfoeth di-ail, bod nifer y plant oedd yn byw mewn tlodi eithafol wedi cynyddu,” meddai Fergus Drake, cyfarwyddwr rhaglenni Prydeinig yr elusen.
Llun o adroddiad Achub y Plant