Dyw ysgolion Cymru ddim yn gwneud digon tros y plant mwya’ dawnus na’r rhai o gefndiroedd di-fraint.

Dyna ddyfarniad y corff arolygu Estyn, yn ei arolwg blynyddol o fyd addysg. Ac, yn ôl y Prif Weithredwr, yr her fawr yw codi lefel yr ysgolion gwaetha’ i fyny at y rhai gorau.

Dyw plant galluog ddim yn cael eu hysgogi gan y gwaith y mae athrawon yn ei osod, meddai’r adroddiad sy’n galw am “daclo cyffredinedd”. Does dim digon o ddisgyblion yn cyrraedd eu potensial llawn, meddai.

Plant di-fraint ‘yn gwneud yn salach’

Ar ben arall y sbectrwm, fe ddywedodd y prif weithredwr, Dr Bill Maxwell, mai cyfyngedig oedd effaith yr ymdrechion i helpu plant o gefndiroedd di-fraint hefyd.

Roedd yr ystadegau’n dangos bod plant sy’n cael cinio ysgol am ddim yn gwneud yn waeth mewn arholiadau ym mhob cyfnod ac maen nhw’n gwneud yn waeth o gymharu â Lloegr.

Er hynny, mae’r adroddiad yn dweud bod mwyafrif ysgolion a cholegau yn gwneud yn dda gydag arolygwyr Estyn yn gweld mwy o waith da neu ardderchog na gwaith gwael neu anfoddhaol.

Ysgolion Uwchradd – gwelliant a gwendidau

Mae’r adroddiad blynyddol yn nodi bod yna arwyddion o welliant yn y ffordd mae ysgolion uwchradd yn cael eu rheoli a’u harwain. Ond mae yna wendidau hefyd …

Er bod safonau cyffredinol y cwricwlwm yn dda, roedd gwyddoniaeth a Chymraeg ail iaith yn achosi pryder.

Mae’r adeiladau a’r cyfleusterau mewn rhai ysgolion hefyd yn achosi pryder gyda mwy na 40% o arolygiadau’n canfod diffygion.

Calonogol

Dywedodd Bill Maxwell bod yr enghreifftiau o weithredu da yn yr adroddiad yn galonogol ac yn dangos bod gwelliannau’n gallu digwydd trwy wynebu’r her.

“Mae angen i ni gynyddu ein hymdrechion i fynd i’r afael ag enghreifftiau o arferion gwan a chyffredin er mwyn cael gwared ar dangyflawni trwy Gymru,” meddai. “Rhaid i ni godi disgwyliadau ac ysgogi disgyblion i fod yn fwy uchelgeisiol ac i gyflawni eu gorau.

“Rhaid i ni fynnu’r safonau uchaf o ran darparu addysg a hyfforddiant, yn enwedig i ddysgwyr sydd mewn peryg o dangyflawni, megis rhai o gefndiroedd di-fraint neu rai mewn gofal.”

Mae Gweinidog Addysg Llywodraeth y Cynulliad, Leighton Andrews wedi dweud y bydd y Llywodraeth yn “parhau i ymdrechu am welliannau parhaol”.

Llun: Abacus – o glawr adroddiad Estyn