Mae pedwerydd person wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â llosgi synagog hynafol ar ynys Crete.

Dyw enw’r dyn a gafodd ei arestio ddim wedi cael ei gyhoeddi, ond mae’n debyg ei fod o’n athro o’r Unol Daleithiau.

Cafodd ei arestio yn nhref glan y môr Hania ar ynys Crete, lle mae Synagog Etz Hayyim.

Cafodd tân ei gynnau yn fwriadol yn y synagog ddwywaith fis diwethaf, gan ddinistrio llyfrau, archifau a hen greiriau.

Mae heddlu ar yr ynys eisoes wedi arestio dau ddyn Prydeinig ac un Groegwr mewn cysylltiad â’r ymosodiadau, ac mae’n debyg eu bod nhw’n chwilio am ddyn arall o’r Unol Daleithiau.

Synagog Etz Hayyim yw’r unig un sy’n goroesi ar Crete. Diflannodd y gymuned olaf o Iddewon ar yr ynys yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Does dim gwybodaeth ynglŷn â’r cymhellion y tu ôl i’r ymosodiadau.