Mae mewnwr y Gweilch, Ricky Januarie wedi dweud bod her fawr yn wynebu’r rhanbarth ar ôl iddyn nhw sicrhau eu lle yn rownd wyth olaf y Cwpan Heineken.

Mae chwaraewr rhyngwladol De Affrica wedi bod yn chwarae i’r Gweilch ar gyfnod benthyg wrth iddyn nhw ymdopi â rhestr hir o anafiadau i’w mewnwyr.

Mae Januarie ar fin dychwelyd i Dde Affrica ar ôl helpu’r rhanbarth i guro Caerlŷr ac ennill eu lle yn rownd nesaf y Cwpan Heineken.

“Mae’n ddiwedd ar fy nghyfnod i gyda’r Gweilch, ond mae’r job yn parhau i weddill y bois,” meddai’r mewnwr.

“Mae yna dal lot o waith caled i’w wneud, gan ein bod wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf yn unig. Mae yna her fawr o flaen y Gweilch. Ond mae’r tîm wedi gwneud yn dda i gyrraedd mor bell â hyn.”

Dywedodd Ricky Januarie ei fod wedi mwynhau ei gyfnod gyda’r Gweilch ac y byddai’n dilyn canlyniadau’r rhanbarth yn ôl yn Ne Affrica.

“Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn wych,” meddai. “Mae safon y rygbi wedi bod yn uchel ac rydw i wedi mwynhau chwarae yn y Cwpan Heineken a’r darbis Cymreig.”