Ni fydd gweithredwyr y banc Goldman Sachs’ yn y Deyrnas Unedig yn cymryd mwy na £1m o gyflog a thal bonws ar gyfer 2009, cyhoeddwyd heddiw.

Yn ôl y BBC, mae’r uchafswm cyflog yn golygu y bydd 100 o weithredwyr yn aberthu cannoedd o filiynau o bunnoedd o dâl rhyngddynt.

Mae’r gweithredwyr yn dweud eu bod nhw’n ymateb i alwad y Canghellor Alistair Darling, i fanciau atal rhag rhoi taliadau anferth i’w gweithwyr.

Er hyn, bydd nifer o weithwyr y banc yn y Deyrnas Unedig, sydd ddim yn weithredwyr, yn dal i dderbyn cyflog a thal bonws a fydd yn llawer uwch nag £1m.

Dyw’r banc ddim am osod uchafswm ar gyflog a thal bonws eu gweithwyr, gan ddweud y byddai hynny yn ei gwneud hi’n anoddach i gadw neu ddenu’r bobol orau i weithio iddyn nhw.