Mae cynnyrch llaeth wedi cael eu tynnu o siopau yn ne China oherwydd pryder eu bod nhw wedi cael eu gwenwyno â’r cemegyn diwydiannol, melamine.
Daw hyn ychydig dros flwyddyn ar ôl i chwech o blant farw, a 300,000 arall fynd yn sâl yn China, ar ôl i’r cemegyn gael ei ychwanegu at laeth powdwr.
Yn yr achos yna, roedd cynhyrchwyr llaeth wedi cymysgu dŵr â llaeth er mwyn gwneud mwy o elw, ac wedi ychwanegu melamine er mwyn twyllo arolygwyr oedd yn profi am brotein yn y cynnyrch. Mae gan brotein a melamine gyfradd uchel o nitrogen.
Cafodd nifer o bobol eu dienyddio yn dilyn ymchwiliad i’r achos.
Mae melamine yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu plastig a gwrtaith.