Yn ôl y ffigurau diweddaraf, 2009 oedd yr ail flwyddyn brysuraf yn hanes gwasanaeth cychod achub yr RNLI.

Yn ôl y Sefydliad, fe fu cynnydd o 30% mewn galwadau yn y rhanbarth sy’n cynnwys Cymru yn ystod y degawd diwetha’.

Fe fu’n rhaid i’r mudiad gwirfoddol achub 1,218 o bobol yng Nghymru a Gorllewin Lloegr, a hynny ar ôl lansio’u cychod achub 1,191 o weithiau.

Criwiau Biwmares a atebodd i fwya’ o ddigwyddiadau ac a achubodd fwya’ o bobol – fe gafodd 93 o bobl eu hachub yno, y nifer uchaf ers 2001. Fe gawson nhw 76 galwad, naw galwad yn fwy nag yn 2008.

Achubwyr Penarth oedd yn ail, gan achub 85 o bobol – naw yn fwy na’r trydydd, ym Moelfre, Ynys Môn.

O ran ymateb i ddigwyddiadau Rhyl oedd yn ail gyda 70 a Dinbych-y-pysgod yn drydydd gyda 67.

“Degawd”

“Wrth i ni ddechrau degawd newydd, mae’r ffigurau’r ddegawd ddiwethaf yn dangos fod cychod achub yn y gorllewin wedi lansio bron i 10,463 o weithiau a’n bod wedi achub 10,266 o bobl” meddai Colin Williams, Arolygwr Cychod Achub Gorllewin Cymru.

“Mae ystadegau’r deng mlynedd diwethaf yn dangos cynnydd yn nifer y galwadau y mae’r RNLI wedi’i dderbyn. Yn 2009, mae ein gwirfoddolwyr wedi cael blwyddyn brysur iawn – efallai fod pobl yn cymryd gwyliau gartref yn ystod y dirwasgiad yn rhannol gyfrifol am hynny” meddai.

Ffaeleddau mewn peirianwaith oedd y prif reswm tu ôl galwadau’r RNLI.

Yn ystod 2009, fe wnaeth criwiau achub yn Sir Gar, Ceredigion Sir Benfro ac Abertawe ymateb i 1,198 o ddigwyddiadau a chynorthwyo 1,410 o bobl.

Prydain ag Iwerddon

Hefyd, roedd nifer y lansiadau cychod achub ym Mhrydain a’r Iwerddon dros 9,000 am y tro cyntaf yn hanes 186 mlynedd yr RNLI.

Fe wnaeth cychod achub lansio 9,154 o weithiau yn 2009 ac achub 8,186 o bobl.

Fe wnaeth achubwyr yr RNLI hefyd brofi eu blwyddyn brysuraf erioed gan lwyddo ymateb i 13,588 o ddigwyddiadau a helpu 15,954 o bobl.

Codi arian

Mae’r cynnydd hwn wedi sbarduno’r elusen i geisio darbwyllo pobl i gefnogi eu hymdrechion codi arian ddydd Gwener, 29 Ionawr.

Fe wnaeth potel anferth gyrraedd Biwmares ddoe (24 Ionawr) fel rhan o ymdrechion yr elusen i atgoffa pobl am eu diwrnod casglu arian blynyddol dydd Gwener.

O ganlyniad, bydd pob math o wahanol weithgareddau a digwyddiadau casglu arian yn cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru ddydd Gwener.

Fe ddywedodd Wendy Reason, Rhwolwr codi arian a chyfathrebu RNLI y Gorllewin:

“…Rydan ni’n ddiolchgar iawn i bawb sy’n cefnogi ein criwiau gwirfoddol a’n hachubwyr.”